Hen Destament

Salmau 108:1-3-10-13 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Cadarn wyf, O Dduw, a theyrngar.Mi ddeffrôf yn awr,Ac â’m crwth a’m telyn lafar,Fel y tyrr y wawr,Rhoddaf ddiolch iti’n rhwydd,O Arglwydd, gyda phobloedd byd.

4-6. Cans ymestyn mae dy gariadHyd y nefoedd fry.Cyfod, Dduw, a thros y creadBoed d’ogoniant di.Er mwyn gwared d’annwyl rai,O maddau’n bai, ac ateb ni.

7-8a. Fe lefarodd y Goruchaf:“Af i fyny’n awr;Dyffryn Succoth a fesuraf,Rhannaf Sichem fawr.Mae Gilead, led a hyd,Manasse i gyd yn eiddo i mi.

8b-9. Effraim yw fy helm, a JwdaFy nheyrnwialen wir.Moab ydyw fy ymolchfa,A thros Edom dirTaflaf f’esgid. Caf foddhadYn erbyn gwlad Philistia i gyd”.

10-13. Pwy a’m dwg i’r ddinas gaerog?Pwy, O Dduw, ond ti?Er it wrthod ein llu arfog,Rho dy help i ni.Gwnawn wrhydri gyda Duw,Cans ofer yw ymwared dyn.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 108