Hen Destament

Salmau 107:1-3-21-22 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. “Diolched pawb i’r Arglwydd,Cans da a ffyddlon yw,”Yw cân pawb a waredwydTrwy law yr Arglwydd Dduw.Fe’u cipiodd o law’r gelyn,A’u cynnull i un lleO’r dwyrain a’r gorllewin,O’r gogledd ac o’r de.

8. Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw,Ac am a wnaeth i’w bobl gaeth,Cans cariad yw.

4-7. Aeth rhai ar goll mewn drysi,Heb ffordd at le i fyw.Yr oeddent yn newynog,Ac yn sychedig, wyw.Gwaeddasant ar yr Arglwydd,A’u gwared a wnaeth ef,A’u harwain hyd ffordd unionI ddiogelwch tref.

8-9. Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw;Eu porthi a wnaeth â mêl a llaeth,Cans cariad yw.

10-14. Roedd rhai mewn carchar tywyllAm wrthod ufuddhauI eiriau Duw, yn gaethionHeb undyn i’w rhyddhau.Gwaeddasant ar yr Arglwydd,A’u gwared a wnaeth ef,A’u dwyn hwy o’r tywyllwch,A dryllio’r gadwyn gref.

15-16. Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb DuwYn dryllio’r pyrth a’r heyrn drwy wyrth,Cans cariad yw.

17-20. Roedd rhai, yn sgîl eu pechod,Yn ynfyd a di-hedd;Casaent fwyd, a daethantYn agos at y bedd.Gwaeddasant ar yr Arglwydd,A’u gwared a wnaeth ef.Iachaodd hwy, a’u hachub,Drwy nerthol air y nef.

21-22. Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw:Mynegi i’r byd ei wyrthiau i gyd,Cans cariad yw.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 107