Hen Destament

Salmau 106:34-37-47-48 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

34-37. Nid ufuddhasant ychwaith a dinistrio’r paganiaid,Ond ymgymysgu â hwy, dysgu ffyrdd yr anwariaid:Plygu o flaenDelwau o goed ac o faen,Aberthu’u plant i’r demoniaid.

38-39. I dduwiau Canaan aberthent eu meibion a’u merched,Ac fe halogwyd y ddaear â gwaed y diniwed.Trwy hyn i gydAethant yn aflan eu brydAc yn buteiniaid gwargaled.

40-43. Yna cythruddodd yr Arglwydd eu Duw yn eu herbyn,A darostyngodd ei bobl dan lywodraeth eu gelyn.Droeon bu’n gefnIddynt, ond pechent drachefn,A darostyngai hwy wedyn.

44-46. Ond, wrth eu clywed yn llefain am gymorth, fe gofioddEi hen gyfamod â hwy, ac fe edifarhaodd.O’i gariad haelRhoes ei drugaredd ddi-ffaelYng nghalon pawb a’u caethiwodd.

47-48. Gwared ni, Arglwydd, a’n cynnull ni o blith y gwledydd,Inni gael diolch i’th enw, a’th foli di beunydd.Byth y bo’n benArglwydd Dduw Israel. Amen.Molwch yr Arglwydd tragywydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 106