Hen Destament

Salmau 106:1-3-13-15 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-3. Molwch yr Arglwydd, cans da yw; ei gariad a bery.Diolchwch iddo; ei wyrthiau ni all neb eu traethu.Mor wyn eu bydY rhai sy’n uniawn o hydAc sydd yn gyfiawn wrth farnu.

4-5. Cofia fi, Arglwydd, pan ddoi at dy bobl â’th ffafriaeth.Ymwêl â mi pan estynni dy fawr waredigaeth,A gweld a gafLwyddiant dy bobl; llawenhafPan lawenha d’etifeddiaeth.

6-8. Yr ydym ni, fel ein tadau gynt, wedi troseddu.Yn yr Aifft, gwadent dy wyrthiau a’th gariad a’th allu.Wrth y Môr Coch,Gwrthryfelasant yn groch;Ond mynnodd Duw eu gwaredu.

9-12. Sychodd y môr, ac arweiniodd hwy trwy ei ddyfnderau.Gwaredodd hwy o law’r gelyn a’u harbed rhag angau.Llyncodd y dŵrEu gwrthwynebwyr, bob gŵr.Yna credasant ei eiriau.

13-15. Buan yr aeth ei weithredoedd yn angof llwyr ganddynt.Profasant Dduw yn yr anial, pan ddaeth eu blys drostynt.Rhoes iddynt hwyBopeth a geisient, a mwy,Ond gyrrodd nychdod amdanynt.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 106