Hen Destament

Salmau 105:7-11-24-27 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

7-11. Ef yw ein Duw, yr Arglwydd.Mae’n barnu’r byd heb gam.Mae’n cofio ei gyfamod,Ei lw i Abraham,I Isaac ac i Jacob,A’i eiriau sy’n ddi-lyth:“I chwi y rhof wlad CanaanYn etifeddiaeth byth”.

12-15. Pan nad oedd cenedl IsraelOnd bechan, ac ar daithO wlad i wlad, ni chafoddNeb ei darostwng chwaith.Ceryddodd ef frenhinoedd,A’u siarsio, “Peidiwch chwi chyffwrdd â’m heneiniogNac â’m proffwydi i”.

16-19. Cyn anfon newyn, trefnuI’w bwydo hwy a wnaeth,Pan yrrodd eu brawd, Joseff,O’u blaen i’r Aifft yn gaeth.Fe roed ei draed mewn cyffionA’i wddf mewn cadwyn gref,Nes profodd gair yr ArglwyddMai gwir ei eiriau ef.

20-23. Yr Arglwydd a anfonoddY brenin i’w ryddhauA’i wneud yn llywodraethwrY deyrnas, i’w chryfhau,A dysgu i’w henuriaidDdoethineb yn eu gwaith.Ac yna daeth plant IsraelI grwydro yn nhir yr Aifft.

24-27. Fe’u gwnaeth yr Arglwydd ynoYn bobl ffrwythlon iawn.Gwnaeth galon eu gelynionO ddichell cas yn llawn.Daeth Moses, a’i frawd, Aaron,Drwy’i air, i sythu’r cam,A thrwyddynt gwnaeth arwyddionA gwyrthiau yn nhir Ham.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 105