1-6. Diolchwch oll i’r ArglwyddAr weddi ac ar gân.Hysbyswch ei weithredoedd,A moli’i enw glân.Addolwch ef, a chofiwchHoll ryfeddodau’i ras,Chwi blant ei ffefryn, Jacob,Ac Abraham, ei was.
7-11. Ef yw ein Duw, yr Arglwydd.Mae’n barnu’r byd heb gam.Mae’n cofio ei gyfamod,Ei lw i Abraham,I Isaac ac i Jacob,A’i eiriau sy’n ddi-lyth:“I chwi y rhof wlad CanaanYn etifeddiaeth byth”.