Mae’r Arglwydd yn gwneuthur cyfiawnderI bawb sydd dan orthrwm a thrais.Fe ddysgodd ei ffyrdd gynt i Moses,A chlywodd plant Israel ei lais.Trugarog a graslon yw’r Arglwydd;Ni lidia; mae’n ffyddlon ddi-lyth.Nid yw yn ceryddu’n ddiddiweddNa meithrin ei ddicter am byth.