Hen Destament

Salmau 103:1-5-19-22 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-5. Bendithied y cyfan sydd ynofLân enw yr Arglwydd o hyd.Na foed im anghofio’i holl ddoniau:Mae’n maddau ’nhroseddau i gyd.Ef sydd yn iacháu fy afiechyd,Ac yn fy ngwaredu o Sheol.Y mae’n fy nghoroni â chariad,Yn dwyn fy ieuenctid yn ôl.

6-9. Mae’r Arglwydd yn gwneuthur cyfiawnderI bawb sydd dan orthrwm a thrais.Fe ddysgodd ei ffyrdd gynt i Moses,A chlywodd plant Israel ei lais.Trugarog a graslon yw’r Arglwydd;Ni lidia; mae’n ffyddlon ddi-lyth.Nid yw yn ceryddu’n ddiddiweddNa meithrin ei ddicter am byth.

10-14. Ni thalodd i ni ein troseddau,Ond, fel y mae’r nef dros y byd,Mae’i gariad ef dros bawb a’i hofna.Pellhaodd ein pechod i gydMor bell oddi wrthym ag ydyw’rGorllewin o’r dwyrain; cans gŵyrMai llwch ydym ni, ac, fel rhiantWrth blentyn, tosturia yn llwyr.

15-18. Mae’n dyddiau ni megis glaswelltyn.Blodeuwn fel blodau ar ddôl;Ond pan ddaw y gwynt, fe ddiflannwn:Ni ddeuwn i’n cartref yn ôl.Ond y mae ffyddlondeb yr ArglwyddA’i iawnder am byth yn parhauI’r rhai sydd yn cadw’i gyfamodA’i ddeddfau, ac yn ufuddhau.

19-22. Mae gorsedd ein Duw yn y nefoedd,Ac ef sy’n rheoli pob peth.Bendithiwch yr Arglwydd, angylion,Sy’n gwneuthur ei air yn ddi-feth.Bendithiwch yr Arglwydd, ei luoedd,Sy’n gwneud ei ewyllys; a chwi,Ei holl greadigaeth, bendithiwchYr Arglwydd ein Duw gyda mi.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 103