Hen Destament

Salmau 101:1-6 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1. Canaf am ffyddlondeb,Canaf am uniondeb;I ti, dirion Arglwydd,Pynciaf gerdd yn ebrwydd.

2. Dy ffordd di a ddysgaf.Pryd y deui ataf?Byddaf gywir-galonYmysg fy nghymdeithion.

3. Ni osodaf lygadAr ddim byd sy’n anfad.Cas yw gennyf dwyllwr:Ni rof iddo swcwr.

4. Cilia’r gwyrgam galonRhagof ar eu hunion.Ni wnaf gymdeithasuGyda’r sawl sy’n pechu.

5. Y sawl sy’n enllibioCyfaill, rhof daw arno;Ac ni allaf arddelY rhai balch, ffroenuchel.

6. Ond y mae fy llygaidAr y gwir ffyddloniaid.Pobl y ffordd berffeithiafA gaiff weini arnaf.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 101