1. Canaf am ffyddlondeb,Canaf am uniondeb;I ti, dirion Arglwydd,Pynciaf gerdd yn ebrwydd.
2. Dy ffordd di a ddysgaf.Pryd y deui ataf?Byddaf gywir-galonYmysg fy nghymdeithion.
3. Ni osodaf lygadAr ddim byd sy’n anfad.Cas yw gennyf dwyllwr:Ni rof iddo swcwr.