1-4. Pam, O Dduw, y sefi drawMewn cyfyngderPan fo’r drwg yn peri brawYn ei falchder?Barus ac ymffrostgar ywYn ei chwantau.Gwawdia’r Arglwydd, caeodd DduwO’i gynlluniau.
5-8. Mae dy farnau di’r tu hwntI’w amgyffred.Dywed yn ei feddwl brwnt,“Ni chaf niwed.”Mae’n llawn melltith, trais a gwawdA drygioni.Llecha’n gudd i ladd y tlawdMewn pentrefi.
9-12. Gwylia, megis llew o’i ffau,Am y truan,Ac fe’i dena i’r dychrynfâuSy’n ei guddfan.Dywed, “Trodd yr Arglwydd draw,Ac ni falia.”Cyfod, Arglwydd, cod dy law.Nac anghofia.