3-4. Bydd fel coeden wedi’i phlannuAr lan dŵr, yn dwyn ffrwyth daYn ei phryd, a’i dail heb wywo.Llwydda ym mhob peth a wna.Nid fel hynny y drygionus,Ond fel us a yrr y gwynt,Yn ymdroelli yn yr awyrCyn diflannu ar ei hynt.
5-6. Felly, ni saif y drygionusYn y farn a ddaw ryw ddydd,Ac yng nghynulleidfa’r cyfiawnPechaduriaid byth ni bydd.Y mae’r Arglwydd da yn gwylioFfordd y cyfiawn ar bob llaw,Ond mae ffordd y rhai drygionusYn diflannu a darfod draw.