Hen Destament

Salmau 1:1-2-5-6 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Gwyn ei fyd y sawl na ddilynGyngor drwg, na loetran chwaithAr y ffordd lle y tramwyaPechaduriaid ar eu taith,Na chydeistedd â gwatwarwyr,Ond sy’n cadw cyfraith Duw,Ac yn dwfn fyfyrio arniBeunydd beunos tra bo byw.

3-4. Bydd fel coeden wedi’i phlannuAr lan dŵr, yn dwyn ffrwyth daYn ei phryd, a’i dail heb wywo.Llwydda ym mhob peth a wna.Nid fel hynny y drygionus,Ond fel us a yrr y gwynt,Yn ymdroelli yn yr awyrCyn diflannu ar ei hynt.

5-6. Felly, ni saif y drygionusYn y farn a ddaw ryw ddydd,Ac yng nghynulleidfa’r cyfiawnPechaduriaid byth ni bydd.Y mae’r Arglwydd da yn gwylioFfordd y cyfiawn ar bob llaw,Ond mae ffordd y rhai drygionusYn diflannu a darfod draw.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 1