Hen Destament

Salm 97:1-12 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Yr Arglwydd ydyw ein pen rhaith,bo perffaith y ddaiaren:Ynysoedd cedyrn yr holl fyd,bont hwy i gyd yn llawen.

2. Niwl a thywyllwch sy iw gylch ef,hyfrydwch nef gyfannedd:Iawnder a barn ydynt yn sail,ac adail maingc ei orsedd.

3. Tân â o’i flaen ef, ac a lysgym mysg ei holl elynion:

4. A’i fellt yn fflamio trwy’r holl fyd,oedd olwg enbyd ddigon.

5. O flaen Duw, fel y tawdd y cwyr,y bryniau’n llwyr a doddent:O flaen hwn (sef yr Arglwydd) ary ddaiar y diflannent.

6. Yr holl nefoedd yn dra hysbysa ddengys ei gyfiownedd:A’r holl genhedloedd a welsantei fawr ogoniant rhyfedd.

7. Gwradwydd i’r rhai a wasnaethany delwau mân cerfiedig:Addolwch ef (nid aulun cau)holl dduwiau darfodedig.

8. Dy farnedigaeth (o Dduw Ion)a glybu Sion ddedwydd:Merched Juda (o herwydd hyn)sy’n ynnyn o lawennydd.

9. Cans ti (o Arglwydd) yw fy Naf,oruchaf dros y ddaiar:Rhagorol yw’r derchafiad tauuwchlaw’r holl dduwiau twyllgar.

10. Pob drygioni chwi a gasewch,caru a wnewch yr Arglwydd,Hwn sydd yn cadw oes ei Sainct,i’w dwyn o ddrygfraint afrwydd.

11. Mewn daiar yr egina’i hâd,goleuad daw i’r cyfion,Yn ol tristwch fo dry y rhod,i lân gydwybod union.

12. Yn yr Arglwydd, o’r achos hon,chwi gyfion llawenychwch,Drwy goffa ei sancteiddrwydd ef,â llais hyd nef moliennwch.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 97