Hen Destament

Salm 94:4-8 Salmau Cân 1621 (SC)

4. Yr ymfalchiant yn eu drwg,gan fygwth amlwg ffrostus?

5. A’th bobl di (Arglwydd) a faeddant,a chystuddiant dy dretâd,

6. Y weddw, a’r dieithr a laddant,lliasant yr amddifad.

7. Dwedasant hyn heb geisio cel,ein gwaith ni wel yr Arglwydd,Ac ni ddeall Duw Jago hyn,ynny ni ddisgyn aflwydd.

8. Ymysg y bobloedd difraw don,ystyriwch ddynion angall,Chwithau ynfydion, o ba brydy rhowch eich bryd ar ddeall?

Darllenwch bennod gyflawn Salm 94