4. Yr ymfalchiant yn eu drwg,gan fygwth amlwg ffrostus?
5. A’th bobl di (Arglwydd) a faeddant,a chystuddiant dy dretâd,
6. Y weddw, a’r dieithr a laddant,lliasant yr amddifad.
7. Dwedasant hyn heb geisio cel,ein gwaith ni wel yr Arglwydd,Ac ni ddeall Duw Jago hyn,ynny ni ddisgyn aflwydd.
8. Ymysg y bobloedd difraw don,ystyriwch ddynion angall,Chwithau ynfydion, o ba brydy rhowch eich bryd ar ddeall?
9. Hwn a wnaeth y glust i bob byw,oni chlyw ef yn amlwg?Ac oni wyl hwnnw yn hawdda luniawdd i ni olwg?
10. Oni cherydda hwnnw chwisy’n cosbi pob cenhedlaeth?Ac oni wyr hwnnw y sy’ndysgu i ddyn wybodaeth?
11. Gwyr yr Arglwydd feddyliau dynmai gwagedd ydyn diffaith,