Hen Destament

Salm 94:19-23 Salmau Cân 1621 (SC)

19. Pan fo ynof’ amlaf yn gwau,bob rhyw feddyliau trymion,Doe dy ddiddanwch di ar dro,i gysuro fy nghalon.

20. A oes gyfeillach i ti Dduw,a maint yr annuwolion?Hwn a lunia enwiredd maithyn lle y gyfraith union.

21. Y rhai sy’n ymdyrru ynghyd,ar fryd dwyn oes y cyfion:Ac yn eu cyngor yr ymwnaedi geisio gwaed y gwirion.

22. Ond yr unic Ior sydd er hyn,yn llwyr amdiffyn f’enaid:Efe yw fy nerth o’m hol a’m blaen,a seilfaen fy ymddiriaid.

23. Efe a dâl i bob dyn drwg,yn amlwg am ei gamwedd:Y maleisus tyn Duw o’r byd,am ei chwyd o enwiredd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 94