Hen Destament

Salm 94:16-20 Salmau Cân 1621 (SC)

16. Pwy a gyfyd gyda myfi,yn erbyn egni trowsedd?Pa rai a safant ar fy nhuyn erbyn llu anwiredd?

17. Oni bai fod Duw imi yn borth,ac estyn cymorth imi,Braidd fu na ddaethai ym’ y loesa roesai f’oes i dewi.

18. Pan fawn yn cwyno dan drymhau,rhag bod i’m camrau lithro.Fy Arglwydd, o’th drugaredd drud,di a’m cynhelud yno.

19. Pan fo ynof’ amlaf yn gwau,bob rhyw feddyliau trymion,Doe dy ddiddanwch di ar dro,i gysuro fy nghalon.

20. A oes gyfeillach i ti Dduw,a maint yr annuwolion?Hwn a lunia enwiredd maithyn lle y gyfraith union.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 94