11. Gwyr yr Arglwydd feddyliau dynmai gwagedd ydyn diffaith,
12. Duw, dedwydd yw a gosbech di,a’i fforddi yn dy gyfraith:
13. Yr hon a ddysg i ddyn warhau,i fwrw dyddiau dihir,Tra foer yn darparu y clawdd,y fan y bawdd yr enwir.
14. Cans ein Ior ni ei bobl ni âd,a’i wir dretâd ni wrthyd,
15. Ef at iawn farn a gadarnhâ,a phob dyn da a’i dilyd.
16. Pwy a gyfyd gyda myfi,yn erbyn egni trowsedd?Pa rai a safant ar fy nhuyn erbyn llu anwiredd?
17. Oni bai fod Duw imi yn borth,ac estyn cymorth imi,Braidd fu na ddaethai ym’ y loesa roesai f’oes i dewi.
18. Pan fawn yn cwyno dan drymhau,rhag bod i’m camrau lithro.Fy Arglwydd, o’th drugaredd drud,di a’m cynhelud yno.