1. Teyrnasu y mae yr Arglwydd,mewn ardderchowgrwydd gwisgodd:Ymwisgodd f’Arglwydd yn brydferth,a nerth yr ymwregysodd.
2. Fe a sicrhâodd sail y bydheb syflyd, yn ddihareb.Dy faingc erioed a ddarparwyd,ti wyd er tragwyddoldeb.
3. Y llifeiriaint, (fy Arglwydd) fainty llifeiriaint yn codi,Tyrfau a llif yn rhwygo’r llawr,a thonnau mawr yn coethi.