Hen Destament

Salm 87:1-7 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Sailfeini hon (sef Sion) sydd,ar gyssegr fynydd ucho’:

2. Ac ar dy byrth rhoes Duw ei serch,uwch pob trig-lannerch Jaco.

3. O ddinas Duw, preswylfa’r Ion,mawr ydyw’r son danad:A gogoneddus air yt’ sydd,uwch trigfennydd yr holl-wlad.

4. Rahab, Babel, a Phalestin,a Thirus flin, a’r MwriaidA fu i’th blant elynion gynt,mae rhai o honynt unblaid.

5. Ond dwedir hyn am Seion ber,fo anwyd llawer ynthi,Nid ymbell un: cans swccwr dayw Duw gorucha’ iddi.

6. Fe rydd yr Arglwydd yn ei rif,y neb fo cyfrif hono:Efe a esyd hyn ar ledsef, hwn a aned yno.

7. Cantor tafod, a cherddor tant,pob rhai yt’ canant fawr-glodA thrwy lawenydd mae’n parhau,fy holl ffynhonnau ynod.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 87