1. Gostwng o Arglwydd y glust dau,clyw fy ngweddiau trymion:Gwrando fi sy’ druan a thlawd,o’th barawd drugareddion.
2. Cadw fy oes, gwr cynnwys wy’,ac ytti’r ydwy’n credu:Duw bydd achubwr da i’th wâs,o’th râs dyrd i’m gwaredu.
3. Trugarha wrthif Arglwydd mâd,cans arnad llefa’n ddibaid:
4. Einioes dy wâs Duw llawenhâ,cans attad coda’ f’enaid:
5. Cans ti o Arglwydd ydwyd dda,i’th bobloedd a thrugarog,I’r rhai a alwant arnat ti,mae dy ddaioni’n bleidiog.
6. O Arglwydd clyw fy llais mor llym,a’m gweddi y’m myfyrdod:
7. Clywi fy llais, gweli fy nghlwyf,y dydd y bwyf i’m trallod.
8. Ymysg y duwiau nid oes un,fel dydi gun gogoned:Ymysg gweithredoedd cymmain hun,nid oes yr un un-weithred.