1. Da wyd i’th dir (Jehouah Ner)dychwelaist gaethder Jago:
2. Maddeuaist drowsedd dy bobl di,mae’i camwedd wedi’i guddio.
3. Tynnaist dy lid oddiarnom ni,troist dy ddiglloni awchlym:
4. (O Dduw ein nerth) tro ninnau’n well,a’th lid bid bell oddiwrthym.
5. Ai byth y digi wrthym ni?a sori di hyd ddiwedd?A saif dy lid o oes i oes?Duw gwrando, moes drugaredd.
6. Pam? oni throi di a’n bywhau,a llawenhau yr eiddod?
7. O dangos in’ dy nawdd mewn pryd,felly cawn iechyd ynod.
8. Beth a ddywaid Duw am danaf,mi a wrandawaf hynny:Fe draetha hedd iw bobl, a’i Sainct,rhag troi ym mraint ynfydu.
9. I’r rhai a ofnant Arglwydd nef,mae’i iechyd ef yn agos:Felly y caiff gogoniant hir,o fewn ein tir ni aros.
10. Ei drugaredd, a’i wirionedd,ar unwaith cyfarfuant:Ei uniondeb, a’i hedd ynghyd,drwy’r tir a’mgydgusanant.
11. Gwirionedd o’r ddaiar a dardd,uniondeb chwardd o’r nefoedd:
12. Duw a ddenfyn yn’ ddaioni,a’n tir i roddi cnydoedd.
13. Uniondeb oedd o flaen Duw nef,a’r cyfion ef aed rhagddo:A Duw a rodia yn ei waith,fel i’r un daith ac efo.
Darllenwch bennod gyflawn Salm 85