Hen Destament

Salm 84:3-12 Salmau Cân 1621 (SC)

3. Aderyn y to cafodd dŷ,a’r wennol fry iw chywionLe wrth dy allor di iw trin,fy Nuw a’m brenin tirion.

4. Gwyn ei fyd a drig yn dy dy,caiff dy folianny ddigon:

5. Ac ynot ti sy’n cadarnhau,a’th lwybrau yn eu calon.

6. Pe rhon a gorfod ar y rhai’nrhyd glyn wylofain dramwy:Gosodant ffynnon iddyn nhw,a’r glaw a leinw fwyfwy.

7. Ant rhagddynt bawb o nerth i nerth,nes cael yn brydferth ddyfod:I’mddangos i Dduw gar ei fron,yn Seion ei breswylfod.

8. Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fi,a’m gweddi o Dduw Jagof:

9. Gwel wyneb d’eneiniog, a’i stâd,Duw’n tarian nâd fi’n angof.

10. Gwell yw nâ mil, un dydd i’th dy,am hynny mwy dewisolYm fod ar riniog y drws tau,nâ phlasau yr annuwiol.

11. Sef, haul a tharian yw Duw mâd,a rydd rad a gogoniant:Ni lestair ef ddaioni maith,i’r rhai a berffaith rodiant.

12. O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr,anfon i lawr dy gymmod:Dedwydd yw’r dyn a rotho’i gred,a’i holl ymddiried ynod.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 84