Hen Destament

Salm 84:1-10 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Dy Babell di mor hyfryd yw!(o Arglwydd byw y lluoedd)

2. Mynych chwenychais weled hon,rhag mor dra-thirion ydoedd.Mae f’enaid i (fy Ion) mewn blys,i’th gyssegr lys dueddu:Fy nghalon i, a’m holl gnawd yw,yn Nuw byw’n gorfoleddu.

3. Aderyn y to cafodd dŷ,a’r wennol fry iw chywionLe wrth dy allor di iw trin,fy Nuw a’m brenin tirion.

4. Gwyn ei fyd a drig yn dy dy,caiff dy folianny ddigon:

5. Ac ynot ti sy’n cadarnhau,a’th lwybrau yn eu calon.

6. Pe rhon a gorfod ar y rhai’nrhyd glyn wylofain dramwy:Gosodant ffynnon iddyn nhw,a’r glaw a leinw fwyfwy.

7. Ant rhagddynt bawb o nerth i nerth,nes cael yn brydferth ddyfod:I’mddangos i Dduw gar ei fron,yn Seion ei breswylfod.

8. Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fi,a’m gweddi o Dduw Jagof:

9. Gwel wyneb d’eneiniog, a’i stâd,Duw’n tarian nâd fi’n angof.

10. Gwell yw nâ mil, un dydd i’th dy,am hynny mwy dewisolYm fod ar riniog y drws tau,nâ phlasau yr annuwiol.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 84