1. Holl farnwyr byd mae Duw’n eu mysg,pe cymrent addysg gantho:Duw yw ymysg y duwiau mân,a’i farn sy lân heb wyro.
2. Pa hyd y rhoddwch farn ar dro,gan bleidio gydâ’r trowsion?
3. I’r tlawd, ymddifad, rheidus trwch,paham na fernwch union.
4. Gwrandewch chwi ar y gwan a’r gwael,a’r tlawd heb gael mo’i gyfraid:(Pan ddel y rhei’ni gar eich bron)o ddwylo’r trowsion diriaid.
5. Gwyr heb wybod, heb ddeall chwaith,sy’n rhodio taith tywyllni:Ni syflent hwy, pe siglai ’nghyd,yr hollfyd a’i sylfeini.
6. Dwedais mai duwiau ych yn siwr,a phlant i’r Gwr goruchaf:Er hyn mal dyn marw a wnewch,un gwymp a gewch a’ch hynaf.