Hen Destament

Salm 81:7-16 Salmau Cân 1621 (SC)

7. I’th flinder gelwaist arnaf fi,gwaredais di sut yma:Wrth lais taran fy mrhofiad oedd,ynglan dyfroedd Meribba.

8. Fy mhobl Israel gwrando fi,os ystyri yn ffyddlon:

9. Na fid ynot arall yn Dduw:na chrymma’i gaudduw estron.

10. Myfi yr Arglwydd Dduw a’th ddugo’r Aiphtir caddug allan:Llanwaf dy fol heb ddiffyg dafn,lleda dy safn yn llydan.

11. Ni choeliai Israel fy rhybudd,ni fyddent ufudd ymy:

12. Gollyngais hwynt iw ffyrdd eu hyn,iw cyngor cyndyn hynny.

13. Och na wrandawsai Israel,gan rodio’n ffel fy llwybrau:

14. A phwys fy llaw llethaswn froneu holl elynion hwythau.

15. Caseion ein Duw, yn ei lid,a ostyngesid iddaw.Ac ef a roesai yn y tirammodau hir i’r eiddaw.

16. Ein Duw a roesai iddynt borth,drwy frasder cymorth rhadol:Rhoi mel o’r graig, rhoi llaeth yn flith,a gwenith yn ddigonol.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 81