Hen Destament

Salm 8:2-8 Salmau Cân 1621 (SC)

2. Peraist yt nerth o enau plant,a rhai a sugnant beunydd,Rhag d’elynion: tawed am hyn,y gelyn a’r dialydd.

3. Wrth edrych ar y nefoedd faith,a gweld gwaith dy fysedd:Y lloer, y ser, a threfn y rhod,a’i gosod mor gyfannedd.

4. Pa beth yw dyn yt’ iw goffau,o ddoniau ac anwylfraint?A pheth yw mâb dyn yr un wedd,lle rhoi ymgeledd cymaint?

5. Ti a wnaethost ddyn o fraint a phris,ychydig is Angylion:Mewn mawr ogoniant, parch, a nerth,rhoist arno brydferth goron.

6. Ar waith dy ddwylo is y nef,y gwnaethost ef yn bennaeth:Gan osod pob peth dan ei draed,iddo y gwnaed llywodraeth.

7. Defaid, gwartheg, a holl dda maes,a’r adar llaes eu hesgyll:Ehediaid nef, a’r pysg o’r don,sy’n tramwy’r eigion erchyll.

8. O Arglwydd ein Ior ni a’n nerth,mor brydferth wyd drwy’r hollfyd,Dy enw a’th barch a roist uwchben,daiar ac wybren hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 8