54. Rhoes hwy i etifeddu’n rhydd,ym mynydd ei sancteiddrwydd:Yr hwn a ddarfu ei warhau,â llaw ddeau yr Arglwydd.
55. Rhoes ef y wlad i ddwyn pob ffrwythrhoes i bob llwyth ei gyfranO Israel, ac yn eu plaid, rhoi’r hen drigoliain allan.
56. Er hyn temptient, a digient Dduw,hwn unic yw sancteiddiol:Ac ni fynnent mo’r ufuddhau,iw dystiolaethau nefol.
57. Ond mynd ar gil, ac ymlaccau,fel eu holl dadau twyll-naws:Megis bwa a fai mewn câd,ac yntho dafliad gwyrdraws.
58. Hwyntwy yn fynych a’i cyffroent,mewn camwedd troent oddiwrthoAt wylfa nos, a delw o bren,fal hyn y digien efo.
59. Ond y Gorucha’n gweled hyn,a ddigiodd wrthyn hwythau:Felly dirmygodd Israel,a gadel ei ammodau.
60. Yna’r ymadawodd efo,â chysegr Shilo dirion:Ei bebyll a’i brif ysgol ddysg,lle’ buasai’ mysg ei ddynion.
61. Ei nerth a roes i garchar caeth,dan elyn daeth eu mowredd:
62. Ei bobl ei hun i’r cleddau llym’,(fal dyna rym’ ei ’ddigedd:)
63. Ei wyr ieuainc fo’i rhoes i’r tân,gweryfon glân rhoes heibio:
64. Ei offeiriaid i’r cleddyf glâs,a’i weddw ni chafas wylo.