Hen Destament

Salm 77:2-18 Salmau Cân 1621 (SC)

2. Y dydd y rhedai ’mriw, a’r nosni pheidiai achos llafur,Mewn blin gyfyngder gwn fy mod,a’m hoes yn gwrthod cysur.

3. Yna y cofiwn Dduw a’i glod,pan syrthiai drallod enbyd:Yna gweddiwn dros fy mai,pan derfysgai fy yspryd.

4. Tra fawn yn effro, ac mewn sann,heb allel allan ddwedyd,

5. Ystyriais yna’r dyddiau gynt,a’r helynt hen o’r cynfyd.

6. Cofiwn fy ngherdd y nos fy hun,heb gael amrantun, chwiliwnA chalon effro, genau mud,â’m hyspryd ymddiddanwn:

7. Ai’n dragywydd y cilia’r Ion?a fydd ef bodlon mwyach?

8. A ddarfu byth ei nawdd a’i air?a gair ei addaw bellach?

9. Anghofiodd Duw drugarhâu?a ddarfu cau ei galon?A baid efe byth (meddwn i)fal hyn â sorri’n ddigllon?

10. Marwolaeth ym’ yw’r meddwl hwn:a throis yn grwn i gofioEi fawr nerth gynt: cofio a wnaf,waith y Goruchaf etto.

11. Cofiaf dy weithredoedd (f’Arglwydd)a’th wrthiau hylwydd cofiaf,

12. Am bob rhyfeddod a phob gwaith,â myfyr maith y traethaf.

13. O Dduw: pa Dduw sydd fal ti Dduw?dy ffordd di yw’n sancteiddiol:

14. Dy waith dengys dy nerth i’r byd,pair yn’ i gyd dy ganmol.

15. Dy nerth fawr hon a ro’ist ar led,wrth wared yr hen bobloedd,Jagof, a Joseph, a fu gaeth,a’i holl hiliogaeth luoedd.

16. Y deifr gwelsant, ofnasant hyn,a dychryn cyn eu symmud.

17. Cymylau dwfr cylch wybr yn gwau,a mellt fal saethau enbyd.

18. Dy daran rhuodd fry’n y nen,dy fellt gwnaent wybren olau,Y ddaiar isod a gyffrodd,ac a dychrynodd hithau.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 77