Hen Destament

Salm 76:1-12 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Yn Juda ac Israel diradweinir ein Duw cyfion.

2. Ei babell ef yn Salem sydd,a’i breswylfydd yn Sion.

3. Yno drylliodd y bwa a’r saeth,a’r frwydr a wnaeth yn ddarnau:A thorrodd ef yn chwilfriw mân bob tarian,a phob cleddau.

4. Trawsion fu cedyrn mynydd gynt,mewn yspail helynt uchel:Uwch a chryfach wyt na hwyntwy,nid rhaid byth mwy mo’i gochel,

5. Pob cadarn galon a ymroes,ac ni ddeffroes o’i gyntyn.Pawb a ddiffrwythodd pan ddaeth braw,ni chae un llaw ei dderbyn.

6. O’th waith (Duw Jagof) a’th amharch,cerbyd a’r march rhoi’i huno.

7. Ofnadwy wyd pwy i’th lid wg,a saif i’th olwg effro?

8. Pan ddaeth o’r nefoedd dy farn di,yr wyd yn peri’ i chym’ryd,Y ddaiar ofnodd, a’i holl llu,rhoist i ostegu ennyd.

9. I farnu pan gyfododd Duwi gadw yn fyw y gwirion:A’r rhai oedd lonydd yn y tir,yr oeddyn gywir galon.

10. Cans poethder dyn yw dy fawl di,felly gostegi drallod:Eu gwres, i’r da a fag gref ffydd,i’r drwg a fydd yn ddyrnod.

11. Eich rhodd i’r Arglwydd Dduw addewch,a llawn gwblhewch eich gobrwy,Pawb sydd o amgylch Sion deg,rhowch anrheg i’r ofnadwy.

12. Ef a ostyngodd uchel fryd,ac yspryd gwyr rhyfelgar:Fo a yrr ofn ynghanol hedd,ar holl frenhinoedd daiar.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 76