Hen Destament

Salm 73:15-18 Salmau Cân 1621 (SC)

15. Hyn os dwedwn, a feddyliwn,o ryw feddalaidd ammau,Wele, a’th blant di y gwnawn gam,i ddwyn un llam a minnau.

16. Pan geisiwn ddeall hyn yn llwyr,o nerth fy synwyr ddynol,Hynny i’m golwg i oedd flin,nes cael rhyw rin ysprydol.

17. Ond pan euthym i gysegr Duw,lle cefais amryw olau,Yna deellais i pa weddy bydd eu diwedd hwythau.

18. Gwybum i ti eu gosod hwy,lle caent lam mwy’n y diwedd,Sef mewn lle llithrig rhwydd-gwymp trwch,anialwch anghyfannedd:

Darllenwch bennod gyflawn Salm 73