Hen Destament

Salm 72:7-19 Salmau Cân 1621 (SC)

7. Iw ddyddiau ef cerir yn iawn,a’r cyfiawn a flodeua.Ac aml fydd hedd ar ddaiar gron,tra fo’r lloer hon yn para.

8. Llwydda efe o for hyd for,o’r ffrwd hyd oror tiroedd:

9. Ei gâs ymgrymmnt, llyfant lwch,hyd yr anialwch cyrredd.

10. Cedyrn o Tharsus frenhinoedd,ac o’r ynysoedd canol,O Seba ac Arabia deg,doe bawb â’i anrheg reiol.

11. Yr holl frenhinoedd doent yn llu,a than ymgrymmu atto:A’r holl genhedloedd, fel yn gaeth,a wnant wasanaeth iddo.

12. Cans y dyn rheidus, a’r gwr gwan,fo’i gweryd pan weddio.Bydd i bod dyn yn nerthol dwr,ar ni bo pleidwyr gantho:

13. Ef a erbyd y tlawd mewn rhaid,fo achub enaid glanddyn:

14. Fo a’i gweryd rhag twll a drwg,gwerthfawr iw olwg ydyn.

15. Felly bydd byw: rhoir iddo dda,sef aur o Seba ddedwydd,Hwy a weddiant arno fo,gan ei fendithio beunydd.

16. Rhyd pen y mynydd yd a gân,fel brig coed Liban siglant:A’r plant cyn amled ar gwellt glâs,o’r ddinas a flagurant.

17. Os haul cylch wybren byth a dry,byth pery enw iddaw,Pawb a’i bendithia ef yn wir,pawb a fendithir ynthaw.

18. Bendigaid fo yr Arglwydd Dduw,(sef Duw yr Israel dirion)Efe’n unig byth sy’n parhau,i wneuthur gwrthiau mowrion.

19. Bendigaid fytho i enw byth,gogonedd dilyth iddo:A’i glod llenwir y ddaiaren:Amen: Amen hyn fytho.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 72