Hen Destament

Salm 72:1-9 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Duw dod i’r brenin farn o’r nef,dod iw fâb ei gyfiowndeb.

2. Yna y rhydd rhwng pobl iawn frawd,ac i’r dyn tlawd uniondeb.

3. Hedd a chyfiownder, yn ol hyn,cair ym hob bryn a mynydd.

4. Y gwan a’r llesg achub a wna,fe dryllia y gorthrymmydd.

5. Hwy a’th ofnant byth ar bob tro,tra treiglo haul a lleuad,

6. Fo ddisgyn fel glaw ar wellt glâs,neu gafod frâs ar wastad,

7. Iw ddyddiau ef cerir yn iawn,a’r cyfiawn a flodeua.Ac aml fydd hedd ar ddaiar gron,tra fo’r lloer hon yn para.

8. Llwydda efe o for hyd for,o’r ffrwd hyd oror tiroedd:

9. Ei gâs ymgrymmnt, llyfant lwch,hyd yr anialwch cyrredd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 72