Hen Destament

Salm 67:2-6 Salmau Cân 1621 (SC)

2. Fel y gwyper dy ffyrdddrwy’r ddaiar gydwyrdd gnydoedd:A’th iechydwriaeth di (o Dduw)y’mysg pob rhyw genhedloedd.

3. Duw: moled pobloedd di,rhoent fawl a bri drwy’r hollfyd.

4. A’r holl genhedloedd is wybren,byddant lawen a hyfryd.Cans ti a ferni’n iawny bobl drwy lawn wybodaeth,Ac a roi’r holl genhedloedd ary ddaiar mewn llywodraeth.

5. Duw, moled pobloedd di,rhoent fawl a bri trwy’r hollfyd.

6. Yna rhydd y tir ffrwyth i’n plith,a Duw ei fendith hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 67