Hen Destament

Salm 61:3-8 Salmau Cân 1621 (SC)

3. Cans craig o obaith, twr difost,y’m fuost rhag y gelyn.

4. O fewn dy Babell y bydd byth,fy nrigfan dilyth dedwydd:A’m holl ymddiried a fyn fodynghysgod dy adenydd.

5. Sef tydi Dduw clywaist yn glau,fy addunedau puraidd:Rhoist etifeddiaeth i bob rhaia ofnai dy enw sanctaidd.

6. Rhoi oes i’r brenin: nid oes ferr:fo fydd fyw lawer blwyddyn.

7. (Duw) gar dy fron y trig yn hir,dod nawdd a gwir iw ganlyn.

8. A thrwy y rhai’n y molaf fidy enw di yn dragywydd.Ac felly peri i mi gwplaufy addunedau beunydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 61