Hen Destament

Salm 55:16-23 Salmau Cân 1621 (SC)

16. Minnau gweddiaf ar Dduw byw,yr hwn a’m clyw mewn amser,

17. Hwyr, a borau, a chanol dydd,a hyn a fydd drwy daerder.

18. Gwaredodd Duw yr enioes faumewn hedd yn nyddiau drygnaws,Lle’r oedd or blaen yn ferbyn lu,sef ar fy nhu troes liaws.

19. Duw a’i gostwng hwynt,ac a’m clyw, sef brenin yw er cynnoes.Hwythau heb ymado â’i chwant,fy Nuw nid ofnant eisoes.

20. Ef wedi cymmod, a rhoi llaw,drwy godi braw a frochodd,Ef â’r unllaw (yn erbyn hedd)yr un glyfaredd torrodd.

21. Ei eiriau fal ymenyn gwyrf,a’i fwriad ffyrf am ryfel:Pan fo oel ar ei dafod doethtyn gleddyf noeth yn ddirgel.

22. O bwrw d’ofal ar dy Dduw,o mynni fyw heb syrthio,Duw a geidw y cyfion byth,a’r drwg f’oi chwyth i gwympo.

23. Sef pob dyn gwaedlyd bradog dronid oesa fo hyd hanner,(Fy Arglwydd Dduw) ond ynot timae’n gobaith i bob amser.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 55