1. O Dduw gwrando fy ngweddi brudd,nac ymgudd rhag fy nghwynfan,
2. Erglyw a gwyl fy ngwael ystâd,a llais fy nâd a’m tuchan.
3. Hyn rhag rhuadaidd lais fy nghâs,a phwys dyn llym iâs enwir,Y rhai a daerant arnaf ddrwg,a’i llid yn amlwg gwelir.
4. Gofid calon sy’n dwyn fy oes,daeth angau loes hyd attaf.
5. Mae ofn ac arswyd arnaf caeth,a dychryn daeth ar f’uchaf.
6. O dra ofn dwedwn yn fy nghri,gwae fi am esgyll clommen,Yna’r ehedwn i le rhydd,i gael ym’ lonydd amgen.
7. Wele, awn i grwydro ym mhell,lle cawn ystafell fachog.
8. Yna y bryssiwn ar fy hyntrhac rhuad gwynt tymestlog.
9. Dinistria di hwynt, (Arglwydd da)gwahana eu tafodau.Sef yn y ddinas amlwg draisa welais, a chynennau.
10. Dydd a nos ei chylchu yn dro,a rhodio rhyd ei chaerau,O’i mewn y mae enwiredd mawr,ac ar ei llawr bechodau.
11. Gan faint ei henwireddau hi,a maint drygioni beunydd,Nid ymâd twyll na dichell chwaithfyth ymaith o’i heolydd.
12. Ac ni wnaeth fy nghâs y gwaith hyn:pe gelyn, goddefaswn:A phe dyn atgas yn ei roch,yn hawdd y gochelaswn.