Hen Destament

Salm 53:1-7 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Dwedai’r ynfyd wrtho’i hunnad oes un Duw na dial:Ei ddrwg ffieidd-dra a’i drais tynn,a ddengys hyn yn ddyfal.

2. Llygru yn ffiaidd maent drwy’r byd,Oedd neb a geisiai Dduw yn gall,nac oedd yn deall gronyn,

3. Ciliasai bawb yn ol ei gefn,a hwy drachefn cydlygrynt:Nid oedd neb a wnelai yr iawn,nac un yn gyfiawn honynt.

4. Pa’m na ’styria gweithwyr trahaeu bod yn bwyta’ mhobloedd:Fel y bara? ac heb ddim bri:ni alwent fi o’r nefoedd.

5. Ofn heb achos arnynt a ddaethy rhai a’ch caeth warchaeodd:Cans trwy eu gwasgar hwy i bob parth,mewn gwarth Duw a’i gwasgarodd.

6. Och fi na roid i Israelo Sion uchel iechyd:Pan roddo Duw ei bobl ar ledo drom gaethiwed adfyd,

7. Yna y bydd Jago yn iach,ac Israel bach yn hyfryd:Yna, ac drachefn.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 53