5. Duw a’th ddistrywia dithau byth,fo dyn dy chwyth o’th gaban:Ac a dyn dy wraidd di i gyd,o dir y bywyd allan.
6. Rhai a’i gwelant a arswydant,cans hwy a ydynt gyfion:A hwy a chwarddant am ei ben,pan welont ddilen greulon.
7. Gwelwch y gwr ni rodd yn ddwysar Dduw na’i bwys na’i oglud,Ond ar ddrygioni yn rhoi nerth,a rhif a gwerth ei olud.
8. Minnau fel oliwydden werddyn nhy Dduw, cerdd a ganaf,Ymddiriedaf iddo yn hawdd,byth dan ei nawdd y byddaf.
9. Mi a’th folaf, a’th obeithiaf,bythoedd drwy ymddiried.Da yw dangos garbron dy Saintdy enw, a maint dy weithred.