7. Ag Isop golch fi’n lan,ni byddaf aflan mwyach,Byddafi o’m golchi mal hyn,fel eira gwyn neu wynnach.
8. Par i mi weled hedd,gorfoledd, a llawenydd,I adnewyddu f’esgyrn ia ddrylliaist di a cherydd.
9. O cuddia d’wyneb-prydrhag fy mhechodau i gyd,Fy anwireddau tyn eu lliw,o Arglwydd bid wiw gennyd.
10. Duw, crea galon bur,dod i mi gysur beunydd.I fyw yn well tra fwy’n y byd,dod ynof yspryd newydd.
11. O Dduw na ddyro chwaith,fi ymaith o’th olygon,Ac na chymer dy Yspryd glânoddiwrthif, druan gwirion,
12. Gorfoledd dwg i mi,drwy roddi ym dy iechyd:A chynnal a’th ysprydol ddawnfi, i fyw’n uniawn hefyd.
13. A dysgaf dy fford wiri’r enwir, a’th addoliad:A phob pechadur try i’r iawn,a chyrch yn uniawn attad.
14. Rhag gwaed gwared fi Dduw,sef Duw fy iechydwriaeth:A’m tafod o’th gyfiawnder dia gân gerdd wirgi hyffraeth.
15. Duw, egor y min mau,â’m genau mi a ganaf,O Arglwydd, gerdd o’th fawl, a’th nerth,fal dyma’r Aberth pennaf.
16. Cans Aberth ni’s ceisi,ac ni fynni offrwm poeth:Pe y mynasyt cowsyt hyn,nid rhaid yt dderbyn cyfoeth.
17. Aberthau Duw i gyd,yw yspryd pur drylliedig,Ac ni ddistyri (o Dduw Ion)y galon gystuddiedig.