Hen Destament

Salm 51:1-17 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Trugaredd dod i mi,Duw, o’th ddaioni tyner;Ymaith tyn fy enwiredd mauo’th drugareddau lawer.

2. A golch fi yn llwyr ddwysoddiwrth fawr bwys fy meiau:Fy Arglwydd, gwna’n bur lân fyfi,rhag brynti fy nghamweddau.

3. Cans adwen fy nghamwedd,a’m brwnt anwiredd yssig,Sef beunydd maent gar fy mron i,

4. Yn d’erbyn di yn unig,Y gwneuthym hyn oedd ddrwgyn dy lan olwg distrych,Fel i’th gyfiowner yn ol d’air,yn burair pan y bernych.

5. Mewn pechod lluniwyd fi,ac mewn drygioni dygas,Felly yr wyf o groth fy mamyn byw bob cam yn atgas.

6. Ac wele ceri’r gwiro fewn y gywir galon.Am hyn dysgaist ddoethineb iachy’m o’th gyfrinach ffyddlon.

7. Ag Isop golch fi’n lan,ni byddaf aflan mwyach,Byddafi o’m golchi mal hyn,fel eira gwyn neu wynnach.

8. Par i mi weled hedd,gorfoledd, a llawenydd,I adnewyddu f’esgyrn ia ddrylliaist di a cherydd.

9. O cuddia d’wyneb-prydrhag fy mhechodau i gyd,Fy anwireddau tyn eu lliw,o Arglwydd bid wiw gennyd.

10. Duw, crea galon bur,dod i mi gysur beunydd.I fyw yn well tra fwy’n y byd,dod ynof yspryd newydd.

11. O Dduw na ddyro chwaith,fi ymaith o’th olygon,Ac na chymer dy Yspryd glânoddiwrthif, druan gwirion,

12. Gorfoledd dwg i mi,drwy roddi ym dy iechyd:A chynnal a’th ysprydol ddawnfi, i fyw’n uniawn hefyd.

13. A dysgaf dy fford wiri’r enwir, a’th addoliad:A phob pechadur try i’r iawn,a chyrch yn uniawn attad.

14. Rhag gwaed gwared fi Dduw,sef Duw fy iechydwriaeth:A’m tafod o’th gyfiawnder dia gân gerdd wirgi hyffraeth.

15. Duw, egor y min mau,â’m genau mi a ganaf,O Arglwydd, gerdd o’th fawl, a’th nerth,fal dyma’r Aberth pennaf.

16. Cans Aberth ni’s ceisi,ac ni fynni offrwm poeth:Pe y mynasyt cowsyt hyn,nid rhaid yt dderbyn cyfoeth.

17. Aberthau Duw i gyd,yw yspryd pur drylliedig,Ac ni ddistyri (o Dduw Ion)y galon gystuddiedig.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 51