Hen Destament

Salm 5:6-12 Salmau Cân 1621 (SC)

6. Y rhai a ddwedant ffug a hud,a phob gwyr gwaedlud creulon,Ti a’i tynni hwyntwy o’r gwraidd,fel ffiaidd annuwiolion.

7. Dof finnau tu a’th dy mewn hedd,am dy drugaredd galwaf:Trwy ofn, a pharch, a goglud dwys,i’th sanctaidd eglwys treiglaf.

8. I’th gyfiownder arwain fi: Nerrhag blinder a chasineb.Duw gwna dy ffordd rhag ofn eu brâd,yn wastad rhag fy wyneb.

9. Cans iw genau nid oes dim iawn,mae llygredd llawn iw ceudod:Eu gyddfau fel ceulannau bedd,a gwagedd ar eu tafod.

10. Distrywia hwynt iw camwedd,Ion, o’i holl gynghorion cwympant,Hwnt a hwy, a’i holl ddrygioni,i’th erbyn di rhyfelant.

11. A’r rhai a’ mddiried ynot ti,am yt’ gysgodi drostynt:(Llawen a fydd pob rhai a’th gâr)cei fawl yn llafar ganthynt.

12. Cans ti (Arglwydd) anfoni wlithdy fendith ar y cyfion:A’th gywir serch fel tarian gref,rhoi drosto ef yn goron.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 5