Hen Destament

Salm 48:3-13 Salmau Cân 1621 (SC)

3. Adweinir Duw ’mhalasau honyn gymorth digon hynod.

4. Ac wele nerth brenhinoedd byddoent yno i gyd-gyfarfod.

5. A phan welsant, rhyfedd a fu,ar frys brawychu rhagor.

6. Dychryn a dolur ar bob ffaig,fel dolur gwraig wrth esgor.

7. Ti â dwyreinwynt drylli’n fraueu llongau ar y moroedd.

8. Fel y clywsom y gwelsom ni,yn ninas rhi’ y lluoedd:Sef hyn yn ninas ein Duw ni,sicrha Duw hi byth bythoedd.

9. Duw disgwyliasom am dy râsi’th deml, ac addas ydoedd.

10. Duw, fel yr aeth dy enw o hyd,felly drwy’r byd i’th folir.Dy law ddeau y sydd gyflawn,a chyfiawn i’th adweinir.

11. A bryn Sion a lawenhâ,a merched Juda hefyd:A'i llawenydd hwy yn parhauO ran dy farnau hyfryd.

12. Ewch, ewch, oddiamgylch Sion sail,a’i thyrau adail rhifwch.Ei chadarn fur a’i phlasau drawi’r oes a ddaw mynegwch.

13. Cans ein Duw ni byth yw’r Duw hwnhyd angau credwn yntho.A hyd angau hwnnw a fyddyn dragywydd i’n twyso.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 48