1. Mawr ei enw’n ninas ein Duw,a hynod yw yr Arglwydd:A’i drigfan ef yno y sydd,ym mynydd ei sancteiddrwydd.
2. Tegwch bro, a llawenydd gwlâd,yw Seion lathriad fynydd,Yn ystlysau y gogledd lawr,tre’r brenin mawr tragywydd.
3. Adweinir Duw ’mhalasau honyn gymorth digon hynod.
4. Ac wele nerth brenhinoedd byddoent yno i gyd-gyfarfod.
5. A phan welsant, rhyfedd a fu,ar frys brawychu rhagor.
6. Dychryn a dolur ar bob ffaig,fel dolur gwraig wrth esgor.
7. Ti â dwyreinwynt drylli’n fraueu llongau ar y moroedd.
8. Fel y clywsom y gwelsom ni,yn ninas rhi’ y lluoedd:Sef hyn yn ninas ein Duw ni,sicrha Duw hi byth bythoedd.