Hen Destament

Salm 46:1-5 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Gobaith a nerth i’n yw Duw hael:mae help iw gael mewn cyfwng.

2. Daiar, mynydd, aent hwy i’r mor:nid ofnaf f’angor deilwng.

3. Pe ymgymysgai’r tir a’r dwfr,nid ofnwn gynwfr rhuad,Ped ai’r mynyddoedd i’r mor mawrar brynnieu i lawr y gwastad.

4. Dinas Duw lle llawen a fydd,cyfagos glennydd afon,Cyssegr preswylfa y rhad,gan ddyfal rediad Cedron.

5. Duw sydd yn trigo o’i mewn hinid âd hi ’scogi unwaith:Duw a’i cymyrth ar y wawr ddydd,a phreswylfeydd perffaith.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 46