Hen Destament

Salm 46:1-11 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Gobaith a nerth i’n yw Duw hael:mae help iw gael mewn cyfwng.

2. Daiar, mynydd, aent hwy i’r mor:nid ofnaf f’angor deilwng.

3. Pe ymgymysgai’r tir a’r dwfr,nid ofnwn gynwfr rhuad,Ped ai’r mynyddoedd i’r mor mawrar brynnieu i lawr y gwastad.

4. Dinas Duw lle llawen a fydd,cyfagos glennydd afon,Cyssegr preswylfa y rhad,gan ddyfal rediad Cedron.

5. Duw sydd yn trigo o’i mewn hinid âd hi ’scogi unwaith:Duw a’i cymyrth ar y wawr ddydd,a phreswylfeydd perffaith.

6. Y cenhedloedd pan fyddent ddig,a ffyrnig y tyrnesydd,Toddai y ddaiar o’i flaen efpam glywid llef Duw ddofydd.

7. Y mae yr Arglwydd gydâ ni,Ior anifeiri’y lluoedd:Y mae Duw Jago yn ein plaid,gyr help wrth raid o’r nefoedd.

8. Y wlad, o dowch i gyd yn rhwydd,a gwaith yr Arglwydd gwelwch,Y modd y gosododd ef ary ddaiar anniddanwch.

9. Gwna i ryfeloedd beidio’n wârhyd eitha’r ddaiar lychlyd:Dryllia y bwa, tyr y ffon,llysg y cerbydon hefyd.

10. Peidiwch, gwybyddwch mai fi yweich unig Dduw a’ch gwanar,Ymysg cenhedloedd mi ’a gâf barch,a’m cyfarch ar y ddaiar.

11. Y mae yr Arglwydd gydâ ni,Ior anifeiri y lluoedd,Y mae Duw Jago yn ein plaid,gyr help wrth raid o’r nefoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 46