Hen Destament

Salm 44:11-26 Salmau Cân 1621 (SC)

11. Rhoist ni yn fwyd (fel defaid gwâr)ar wasgar i’r cenhedloedd.

12. A gwerthaist dy bobl ar bris bach,nid hyttrach dy oludoedd.

13. Rhoist ni yn watwar (o Dduw Ion)i’n cymdogion gwrthrym:A diystyrwch oll a gwarthi bawb o bobparth ydym.

14. Dodaist ni yn ddihareb chwithymhlith yr holl genhedloedd,Ac yn arwydd i ysgwyd pen,a choeg gyfatcen pobloedd.

15. Fy ngwarth byth o’m blaen daw yn hawdd,fy chwys a dawdd fy rhagdal,

16. Gan lais gwarth ruddwr, cablwyr câs,a gwaith galanas dial.

17. Er dyfod arnom hynny i gydni throes na’m bryd na’n cofion,Ac ni buom i’th air (o Ner)un amser yn anffyddlon.

18. Ein calon yn ei hol ni throed,ni lithrai’n troed o’th lwybrau:

19. Er ein gyrru i ddreigiaiddgell a’n toi a mantell angau.

20. Os aeth enw ein Duw o’n co,ac estyn dwylo’i arall.

21. Oni wyl Duw y gaugred hon?ein calon mae’n ei deall.

22. O herwydd er dy fwyn yn wiro Dduw, i’n lleddir beunydd,Fal y defaid ymron eu llâdd,fal dyna râdd y llonydd.

23. O deffro cyfod, Dduw, mewn pryd:pa’m yr wyd cyd yn gorwedd?A dihuna, a chlyw fy nghri,a chofia fi o’r diwedd.

24. Paham y cuddi d’wyneb pryd?o darbod hyn ein blinder,Ein henaid mathrwyd yn y llwchgan dristwch a gorthrymder.

25. Wrth y llwch mae ein bol ynglyn,fal dyna derfyn gwagedd.

26. Duw, cyfod, cymorth, gwared nio egni dy drugaredd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 44