Hen Destament

Salm 43:1-5 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Barn fi (o Dduw) a dadleu’n dynnyn erbyn pob oedd enwir,Rhag y gwr twyllgar gwared fi,a rhag drygioni’r dihir.

2. Cans ti yw Duw fy nerth i gyd,paham ym’ bwryd ymaith?A pha’m yr âf mor drwm a hyn,gan bwys y gelyn diffaith?

3. Gyr dy olau, a moes dy wir,ac felly twysir finnau:A’m harwain i’th breswylfydd,i’th fynydd, ac i’th demlau.

4. Yna yr âf at allor Duw,sef goruchel Dduw hyfryd,Ac ar y delyn canaf fawl,Duw, Duw, fy hawl a’m gwynfyd.

5. Trwm wyd f’enaid o’m mewn: pahamy rhoi brudd lam ochenaid?Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bronei wyneb tirion cannaid.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 43