Hen Destament

Salm 42:8-14 Salmau Cân 1621 (SC)

8. Dyfnder is dyfnderau y sydd,ac ar eu gilydd galwant:A dwfr pob ffrwd, pob llif, pob ton,hwy dros fy mron a aethant.

9. Fy Naf a roes y dydd ym’ hedd,a’r nos gyfannedd ganu,I ganmawl fy Nuw, hwn a roesym’ einioes iw foliannu.

10. Paham im’ gedyt dros gof cyd?Duw, wrthyd yr achwynaf.

11. Er gorthrymder y gelyn cam,mewn galar pa’m y rhodiaf?

12. Trwy f’esgyrn taro cleddyf llymmewn gwarthlid ym, oedd edliwYm’ om gelynion er fy ngwae,dy Dduw p’le mae fo heddiw?

13. Trwm wyd f’enaid o’m mewn:paham y rhoi brudd lam ochenaid?

14. Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bronei wyneb tirion cannaid.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 42